Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 2 Chwefror 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09: - 11:30 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Mark Drakeford (Cadeirydd) Mick Antoniw Rebecca Evans Vaughan Gething William Graham Elin Jones Darren Millar Lynne Neagle Lindsay Whittle Kirsty Williams |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
David Worthington, Llywodraeth Cymru Chris Brereton, Llywodraeth Cymru Chris Humphreys, Llywodraeth Cymru Rob Williams, Food Standards Agency |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Sarah Beasley (Clerc) Llinos Dafydd (Clerc) Meriel Singleton (Clerc) Stephen Boyce (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.49, croesawodd y Cadeirydd Joyce Watson AC i’r cyfarfod. Roedd Joyce Watson yn bresennol ar gyfer eitem 2 ar yr agenda ar ran y Pwyllgor Menter a Busnes.
2. Y Bil Drafft ynghylch Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) - Briff technegol gan swyddogion Llywodraeth Cymru
2.1 Bu swyddogion yn ymateb i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ar y Bil Drafft ynghylch Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru).
2.2 Cytunodd y swyddogion i ddarparu’r wybodaeth ychwanegol a ganlyn, yn unol â chais y Pwyllgor:
· ffigurau ynghylch nifer yr ymweliadau â thudalennau gwefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd sy’n ymwneud â sgorio hylendid bwyd;
· dadansoddiad o nifer yr ysbytai yng Nghymru sydd ymhob categori hylendid bwyd;
· nifer yr ysbytai yng Nghymru sy’n arddangos eu sgôr hylendid bwyd ar hyn o bryd; a
· ffigurau cywir ynghylch nifer y busnesau bwyd yng Nghymru sydd wedi cael eu sgorio ers mis Hydref 2010, fesul awdurdod lleol, a dadansoddiad o nifer y busnesau sydd ymhob categori sgorio.
2.3 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal sesiwn debyg unwaith y bydd yr ymgynghoriad ar y Bil Drafft wedi cau.
3. Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hyn - Trafod y gwaith o ymgysylltu â’r cyhoedd
3.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei waith ymgysylltu allanol ar gyfer yr ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hyn.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor ar weithgaredd ymgysylltu arfaethedig a chytunodd i benodi Age Cymru a Gofal Croesffyrdd i weithio ar y cyd er mwyn hwyluso’r gwaith hwn.
4. Blaenraglen waith - Trafodaeth ynghylch sesiynau tystiolaeth un-tro
4.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod pynciau ar gyfer cynnal pedair sesiwn dystiolaeth un-tro yn nhymhorau’r gwanwyn a’r haf.
4.2 Cytunodd y Pwyllgor i geisio cynnal ymchwiliadau undydd mewn perthynas â’r materion a ganlyn:
· Amseroedd aros ar gyfer cadeiriau olwyn yng Nghymru: gwaith dilynol ar yr argymhellion a wnaed yn adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yn y Trydydd Cynulliad ar wasanaethau cadair olwyn yng Nghymru;
· Atal thrombo-emboledd gwythiennol; a
· Lleihau symudiadau ffetws a marwenedigaeth yng Nghymru.
4.3 Cytunodd y Pwyllgor:
· i benderfynu’n ddiweddarach ar y pwnc i’w drafod yn ystod ei bedwaredd sesiwn, gan benderfynu rhwng trafod gwasanaethau cyd-ymatebwyr, mynediad at feddyginiaethau ag amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau orthopedeg;
· i aros am adroddiad Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin ar ei ymchwiliad i anhwylder straen wedi trawma, sy’n mynd rhagddo, cyn ymgymryd ag unrhyw waith ar y mater hwn; ac
· y byddai angen mwy nag un diwrnod i drafod anghydraddoldebau iechyd, ac felly y dylid cynnwys y mater hwn ar restr o bynciau posibl ar gyfer ymchwiliadau yn y dyfodol.
5. Papurau i'w nodi
5.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Ionawr.
5.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - P-04-318 Gwasanaethau Mamolaeth Trawsffiniol
5.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr a gafwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â deiseb P-04-318, sef deiseb ar wasanaethau mamolaeth trawsffiniol, a chytunodd i adolygu’r mater hwn yn gyson, yn unol â chais y Pwyllgor.
6. Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Trafod y prif faterion
6.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried y materion allweddol mewn perthynas â’i ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru, a chytunodd i ddychwelyd er mwyn trafod ei gasgliadau ac argymhellion allweddol yn ystod ei gyfarfod nesaf ar 8 Chwefror.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
7. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 7 ac ar 8 Chwefror
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 7.
7.2 Cytunodd y Pwyllgor hefyd i wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod a gynhelir ar 8 Chwefror, ac eithrio’r sesiwn dystiolaeth lafar a gynhelir gyda Jean-Pierre Girard ar yr ymchwiliad i ofal preswyl, a gaiff ei chynnal yn gyhoeddus.